Mae adroddiadau’r Pwyllgor i’r Cynulliad fel a ganlyn:
Offerynnau nad ydynt yn arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r penderfyniad negyddol
CLA6 - Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 14 Mehefin 2011
Fe’u gosodwyd: 16 Mehefin 2011
Yn dod i rym ar: 7 Gorffennaf 2011
CLA7 - Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed: 14 Mehefin 2011
Fe’i gosodwyd: 17 Mehefin 2011
Yn dod i rym ar: 1 Awst 2011
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
CLA8 - Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol.
Fe’u gwnaed: Heb ei nodi.
Fe’u gosodwyd: Heb ei nodi.
Yn dod i rym ar: 1 Hydref 2011
CLA9 - Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol.
Fe’i gwnaed: Heb ei nodi.
Fe’i gosodwyd: Heb ei nodi.
Yn dod i rym ar: 1 Hydref 2011
Offerynnau sy’n arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
CLA5 - Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol.
Fe’i gwnaed: 2001
Fe’i gosodwyd: Heb ei nodi.
Yn dod i rym ar: 6 Gorffennaf 2011
Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn statudol hwn. Ceir copi ohono yn Atodiad 1.
Busnes arall
Rôl y Pwyllgor a dulliau o weithio yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
Papur: CLA(4)-02-11(p1)
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y papur gan Glerc y Pwyllgor ac yn trafod rôl y papur a’i ddull cyffredinol i’w gylch gwaith.
Cytunodd y Pwyllgor ar y pwyntiau canlynol:
· ei fod yn fodlon â’r trefniadau gwaith ar gyfer is-ddeddfwriaeth fel y’u hamlinellwyd ym mharagraffau 10-16 o bapur CLA(4)-02-11(p1);
· i ddefnyddio’i ddisgresiwn o dan Reol Sefydlog 21.11 i ddirprwyo’i swyddogaethau i Gadeirydd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 21.9 (Sybsidiaredd Ewropeaidd), yn ystod unrhyw wythnos pan na fydd y Cynulliad yn eistedd.
· i ofyn i’r Gwasanaeth Ymchwil gynnal ymchwiliad i’r trefniadau ar gyfer dirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru drwy Ddeddfau Senedd y DU. Byddai’r ymchwiliad hefyd yn edrych ar faterion cysylltiedig, er enghraifft gweithredu Nodiadau Canllawiau i Ddatganoli. Y nod fyddai dechrau ymchwiliad yn fuan yn nhymor yr hydref; a
· gofyn i’r Gwasanaeth Ymchwil feddwl am ymchwiliadau posibl i strwythurau Llywodraethol Cymru a Llywodraethu Ystadau’r Goron i ddechrau’n hwyrach yn yr hydref ac, ar gyfer y tymor hwy, i gynnal ymchwil i gael awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
Roedd y Pwyllgor yn cytuno y byddai’n ddefnyddiol yn ei dro i gael papur ar wahân, sy’n edrych ar yr agweddau Ewropeaidd o gylch gwaith y Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd y Cwnsler Cyffredinol i un o’i gyfarfodydd er mwyn iddo gael gwell dealltwriaeth o’i rôl a’i berthynas â gwaith y Pwyllgor.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Mehefin 2011
Annex 1
Constitutional and Legislative Affairs Committee
(CLA(4)-02-11)
CLA5
Constitutional and Legislative Affairs Committee Report
Title: The Right of a Child to Make a Disability Discrimination Claim (Schools) (Wales) Order 2011
Gweithdrefn: Affirmative
The Education (Wales) Measure 2009 (“the Measure”) amended Part 4 of the Disability Discrimination Act 1995, which related to discrimination in schools, to enable children themselves to make a disability discrimination claim to the Special Educational Needs Tribunal for Wales. The Equality Act 2010 repeals the Disability Discrimination Act 1995.
This Order, made under section 20 of the Measure, amends the Measure to remove the provisions that amended the Disability Discrimination Act 1995, and to insert instead corresponding and other appropriate provisions amending the Equality Act 2010.
Technical Scrutiny
No points are identified for reporting under Standing Order 15.2 in respect of this instrument.
Merits Scrutiny
The Assembly is invited to pay special attention to this instrument under Standing Order 21.3(i) in that, for the following reasons, it raises matters of legal importance–
This Order is made under unique circumstances. When the Assembly considered the Measure, extensive changes to equality legislation were under consideration at Westminster. However, it was not clear what the final form of those changes would be or the timescale for their implementation. For that reason, the Measure gave Welsh Ministers the unusual power referred to above to make extensive amendments to a Measure being considered by the Assembly
Section 20 limits the nature of the permitted amendments, but because the changes arising from the Equality Act 2010 are so extensive, those amendments do not precisely reflect the legislation passed by the Assembly. The changes made to the Measure by this Order correspond as closely as is practicable to what was agreed by the Assembly, ensuring that the rights given to children by the Measure are secured under the new arrangements.
David Melding AM
Chair, Constitutional and Legislative Affairs Committee
29 June 2011